Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

28 Tachwedd 2016

SL(5)037 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad trosiannol i gynorthwyo trethdalwyr yr effeithir arnynt gan ailbrisio annomestig 2017.  Maent yn rhagnodi rheolau i’w defnyddio i gyfrifo’r symiau a godir ar gyfer hereditamentau a fyddai â gostyngiad yn eu hawl i Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach o ganlyniad i gynnydd yn eu gwerth ardrethol o ganlyniad i’r ailbrisio.  Mae’r Rheoliadau yn gweithio drwy ostwng y cynnydd mewn atebolrwydd trethdalwyr cymwys, gan ganiatáu i unrhyw gynnydd gael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o dair blynedd.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi

Fe'u gosodwyd ar: 22 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2016